bob dydd, bob dydd, darluniaf _______ bob dydd - Esyllt Lewis

Dwi wedi neud bron i 400 darlun fel rhan o brosiect @darlun_y_dydd bellach. Sain siŵr iawn pam.

Nes i ddechre'r prosiect ar y 1af o Ionawr 2017 gan ddarlunio bob dydd am flwyddyn fel dihangfa wrth astudio gradd academaidd, ac wedi saib yn 2018, dwi wedi penderfynu ail-bobi syniad y darlun beunyddiol eleni. Dyma un o'r darluniau diweddaraf, o fy nghegin deuluol, lle bach cyfyng sy'n llawn atgofion a danteithion. Un peth dwi wedi sylwi ers dechrau'r prosiect yw bod gen i bach o obsesiwn gyda darlunio llinellau...

Dwi'n credu fy mod wedi dechrau'r prosiect er mwyn gorfodi fy hun i wneud rhywbeth dwi wir yn mwynhau, unwaith bob dydd. Drwy osod y gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol, does dim lle i guddio, ac mae gosod rhywbeth gerbron cynulleidfa yn syth, heb amser i ddiwygio neu ystyried yn brofiad brawychus, sy’n gallu sigo neu godi dy hyder di mewn eiliad.

Ar ddechrau 2017, roeddwn i wedi bwriadu gwneud darlun realaidd bob dydd. Llwyddais i wneud ambell un, ond doedd y broses ddim wastad yn gyffrous iawn achos ti'n gwbod yn union beth fydd diweddglo'r paentio ac nid yw bob tro'n hwyl bod yn gaeth i realiti myfyriwr. Dyma baentiad dyfrlliw o fy stafell wely yn ystod ail flwyddyn prifysgol, just cyn symud y crap i gyd allan.

O'r stafell hon yn atig un o'r tai myfyrwyr sgwishd yn Cathays, roedd gen i olygfa anhygoel dros y ddinas, oedd yn rhoi cyfle i fi neud tirluniau ymysg y darluniau o wrthrychau random stafell wely.

Ond wrth i'r flwyddyn lithro ymlaen, aeth y darluniau yn llawer mwy haniaethol ac arbrofol. Dyma'r rhai nes i joio creu fwya achos does gen ti ddim syniad sut beth fydd y darlun gorffenedig, ti just yn gallu creu heb feddwl yn ormodol... am unrhyw beth yn benodol.

Weithie ti moyn defnyddio gymaint o liw a ti'n gallu a phatrymau gwyllt rhy gormod melysgybolfa llachar lloerig pydru pen ysgwyddau coesau traed.

Weithie dim ond llinell ddu barhaus.

Darlunio’n feddw am 4am, darlunio’n ddryslyd wrth wylio Pobol y Cwm, darlunio’n orfoleddus amser brecwast, mae pob darlun yn wahanol yn dibynnu ar sut ddiwrnod dwi’n ei brofi.

Mae @darlun_y_dydd hefyd yn fy ngalluogi i greu darlun fwy gonest o fywyd bob dydd, drwy baent a phensil a food colouring, na’r darlun gorberffaith y gellir ei ffalsio ar brydiau. Mae darlunio yn gallu cynnig math gwahanol o ‘filter’ rhyngddot ti a’r byd go iawn.

Er gwaetha melltithion lu y cyfryngau cymdeithasol, mae cael cynulleidfa yn gorfodi chi i greu a thrwy gyfrwng Facebook, Twitter ac Instagram, ein hoes ni yw’r tro cyntaf erioed lle mae pobl yn gallu creu a chael ymateb ar raddfa fawr yn syth, sy’n gyffrous mewn llawer o ffyrdd. Pan oeddwn i ar ochr arall y byd yn darlunio'r Unol Daleithiau ynghanol hysteria Trump, roedd cael ymateb pobl nol yng Nghymru yn braf.

Weithie ma digwyddiade yn y newyddion yn tra-arglwyddiaethu ar eich diwrnod ac mae'n anodd meddwl am unrhyw beth arall. Dwi wedi gwneud ambell ddarlun o ddryswch Brexit ac etholiadau Torïaidd a wynebau di-glem darllenwyr newyddion. Y darlun mwyaf poblogaidd dwi wedi gwneud yw'r un yn dilyn ymdaith i achub Guildford Crescent, adeiladau hyfryd sy'n dal busnesau annibynnol ynghanol diffeithwch y fflatiau a'r gwestai mwyaf di-enaid ger gorsaf Heol y Frenhines, Caerdydd. Adeiladau sy'n debygol o gael eu dymchwel cyn dyfod yr haf, i greu lle ar gyfer rhagor o ddiffeithwch sgleiniog.

Fy hoff beth am y prosiect yw ei fod wedi sbarduno rhai o fy ffrindiau i ddarlunio’n fwy aml, am ei fod, gobeithio, yn dangos bod lot o’r stwff ti’n creu yn mynd i fod yn mediocre, average, meh ar y gorau, ond y peth pwysig yw’r broses o greu a mynegi dy hun, ac os wyt ti’n hapus gyda’r canlyniad ma hwnna’n iawn hefyd. Os chi’n hoffi creu, gwnewch hynny – boed baentio neu sgwennu neu goginio cacen, dwi wedi dysgu y bydd pobl yn llawer mwy parod i gefnogi na dilorni, ac os ydyn nhw dyw hynny byth yn mynd i effeithio ar dy allu di i greu... hyd yn oed os wyt ti’n neud darlun crap, di-fflach, yn oriau mân y bore, heb allu canolbwyntio’n iawn, ar ôl gormod o ddawnsio disgo.

O.N. oes rhywun yn gwbod beth yw’r gwahaniaeth rhwng arlunio a darlunio??

Previous
Previous

Cyfweliad: Cyfarth a chyffroi - Elgan Rhys

Next
Next

Stori Fer: Y Gymwynas Olaf - Lliwen Glwys