Cyfweliad: Cyfarth a chyffroi - Elgan Rhys

"Dyna ydy o ar ddiwedd y dydd ydy stori syml am gariad. So er mai dau ddyn 'da ni’n gweld yn hwn, does 'na ddim rhwystre i unrhywun o unrhyw ryw neu unrhyw rywioldeb."

Elgan Rhys (Llun Andrew James)

Es i draw i Little Man Coffee i sgwrsio gyda'r dramodydd huawdl a hynaws Elgan Rhys, ychydig ddiwrnodau cyn agoriad ei ddrama gomisiwn cyntaf, 'Woof', sy'n cael ei ddangos yn Theatr y Sherman Caerdydd. Dyma ddrama sy'n archwilio perthynas dau ddyn hoyw mewn ffordd 'eofn' a 'heriol'. Dyma oedd gan Elgan i'w ddweud, yn y tawelwch cyn storm 'Woof':

O ble ddaeth y syniad ar gyfer ‘Woof’ a be ti’n gobeithio ddaw o’r sioe?

Ma ‘Woof’ wedi bod mewn datblygiad ers dros dwy flynedd. Nes i roi fersiwn ohoni i mewn i gynllun Theatr y Sherman ar gyfer sgwennwyr newydd yn y Gymraeg – ‘BRIG’. Dyna oedd y cam cynta; roedd hi’n fersiwn oedd yn chwydfa o broses cathartig i mi, yn ymateb i berthynas efo dyn am y tro cynta. So odd e’n eitha agos ata i, yn eitha personol. Odd gen i ddiddordeb mewn archwilio a mynegi y teimladau a brofais o fewn y berthynas ac ar ôl y berthynas, achos doedd o ddim yn amser hir ar ôl i mi ddod allan yn hoyw i fi fynd i mewn i’r berthynas yma. Perthynas byr oedd o, ond odd y byd newydd yma, y diwylliant newydd, a’r ffordd newydd o fod mewn perthynas efo rhywun o’r un rhyw o ddiddordeb mawr i fi ei archwilio, ei gwestiynu a’i drafod. O’r fan honno y daeth ‘Woof’ go iawn, lle cathartig i archwilio a chwestiynu’r diwylliant yna, yn erbyn y diwylliant o’n i wedi dod o, sef y diwylliant hetero-normaidd. Mae wedi ehangu ac esblygu llwythi ers y fersiwn cynta yna, ac wedi mynd y tu hwnt i’r personol rŵan. Mae calon a gwreiddiau y peth dal yno, ond mae’r broses o ddad-adeiladu a ffeindio gwraidd y ddrama ffuglen yma wedi dod yn broses o ail-adeiladu ei hun hyd at yr ymarferion yn y Sherman. Gwnaeth Rachel O’Riordan, cyn gyfarwyddwr artistig y Sherman, gomisiynu fi flwyddyn yn ôl i greu drama, a fedra i’m diolch digon iddi hi am roi ffydd ynof i ac annog fi. Ma hi’n dangos be ti’n gallu neud ac yn rhoi’r cyfle i ti. Diolch iddi hi a’r tîm yn y Sherman am roi platfform i’r ifanc i rannu eu gwaith. Ma dangos drama yn theatr y Sherman, sy’n cael ei adnabod ledled y DU ar gyfer sgwennu newydd, yn exposure briliant i fi.

A wedyn Gethin, sy’n gweithio gyda ti ar Gwmni Pluen, sy’n cyfarwyddo. Sut brofiad yw gweithio gyda Gethin?

Ie mae’n grêt gweithio gyda Gethin – da ni di neud lot o betha hefo’n gilydd, ma na lot o brofiada tu ôl i’r ddau ohonan ni gyda’n gilydd ac ar wahân, sydd wedi cyfoethogi’r broses i gyd. Da ni’n onest iawn efo’n gilydd, a da ni’n gynhyrchiol iawn oherwydd hynny. Da ni’n ceisio sicrhau perthnasedd y darn a sicrhau ei fod o mor gyfoes a gallith o fod, ei fod o o’r safon gora fedrwn ni gyrraedd. Mae’n ddifyr o ran y dad-adeiladu – erbyn y fersiwn fydd yn cael ei lwyfannu, ma na lot o ddigwyddiade o’r fersiwn cynta wedi ffeindio eu ffordd yn ôl i mewn i’r ddrama ond eu bod nhw’n lot fwy cyfoethog. Ie mae’n rili cyffrous, rili cyffrous!

Wyt ti’n teimlo ei bod e’n bwysig sgwennu o dy safbwynt di, fel proses o gatharsis neu mae’n amrywio?

Dwi wastad yn ymateb i rhywbeth sy’n digwydd i fi. Boed o’n rhwbath bach iawn neu rhwbath mowr, rhwbath rili direct neu ddim, wastad yn ymateb i rwbath dwi di weld, dwi di glwad, dwi di teimlo. Mae’n amrywio, dwi’n mynd efo fy ngreddf. Just chwydu i ddechra efo hi.

Gan bod hi wedi bod yn broses sydd wedi para cyhyd, dros ddwy flynedd, sut deimlad yw hi i weld y ddrama’n dechrau cael ei hymgnawdoli gan yr actorion yn yr ystafell ymarfer?

Beth sy’n grêt ydi bod yr actorion wedi bod yn rhan o’r prosiect ers ‘BRIG’. Ma Aled Pedrick sydd yn y cynhyrchiad wedi bod yno ers y cychwyn, felly mae’r cymeriadau yma wedi tyfu a thyfu ers ‘BRIG’. Ma na breathing space wedi bod rhwng y cyfnodau datblygu er mwyn rhoi amser i’r peth setlo, ac i ni allu cnoi cil ar bethau cyn llywio a llenwi. Ma Berwyn Pearce ac Aled Pedrick (sy’n actio Daf a Jesse yn y cynhyrchiad) yn briliant, a di bod yn rhan fawr o ddatblygiad naratif y ddau gymeriad a dwi’n gobeithio eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw wedi bod mewn proses agored i fedru mynegi a ffeindio llais y cymeriadau eu hunain. Achos dwi ddim yn awdur precious, dwi eisiau gadael i bobl deimlo perchnogaeth dros betha, er enghraifft ma un o’r cymeriade di newid acen ac maen nhw’n rhoi awgrymiade yn yr ystafell ymarfer a dwi’n gwrando ac yn ymateb felly dwi’n gobeithio eu bod nhw’n teimlo perchnogaeth.

Aled Pedrick a Berwyn Pearce fel Jesse a Daf yn Woof (Llun Chris Lloyd)

Mae’n swnio fel proses eitha cydweithredol, hyblyg. Mae’n swnio’n gyffrous.

Dyna natur y ffordd dwi a Geth wedi gweithio erioed, rili – trio bod yn agored ac yn barod i wrando ac ymateb. Sicrhau bod pawb yn teimlo bod gennyn nhw le. Ac ar ddiwedd y dydd, cydweithio da ni, cydweithredwyr ydan ni wrth fynd am yr un nod o greu profiad fydd yn ysgogi pobl i gwestiynu cymhlethdodau a thrywyddau bywyd.

O’n i ishe holi ti am yr enw ‘Woof’, eitha hynod defnyddio gair Saesneg ar gyfer drama Gymraeg?

Mae’n deillio o’r ffaith fod un o’r cymeriade yn y ddrama yma yn cyfeirio at ddynion fel eu bod nhw’n ‘fwy fel cŵn’, o ran eu natur nhw, eu natur rhywiol, eu natur dynol, dynion chwantus fel cŵn chwantus, ‘isho sniffio mwy nag un dyn’. Ar gychwyn y ddrama maen nhw’n penderfynu bod mewn perthynas agored, eu bod nhw’n agored yn rhywiol i fwy nag un partner ond eu bod nhw ond yn caru ond ei gilydd. O hwnna mae’r cwestiwn yma’n deillio: ydy dynion yn fwy fel cŵn?

Er bod llawer o ddramâu yn ymdrin â pherthnasau rhwng dynion, ma hwn yn ymddangos i fi yn reit wahanol i feddwl ei fod yn trafod dau ddyn mewn cariad, ma hwnna’n rhywbeth nad yw wedi cael ei archwilio gymaint efallai?

Mm. A dwi’n meddwl fod yr ymateb yn profi hynny mewn gwirionedd. Ma pobl isio clywad stori am ddau ddyn mewn cariad. Yn enwedig yn Gymraeg. Mae Rachel O’Riordan wedi dweud petha hyfryd o ran hyn, dydy hon ddim yn stori ‘Gymreig’ os ydy hynny’n neud sens. Mae di cael ei fynegi’n Gymraeg achos dyna dwi di penderfynu. Mae just yn stori am gariad sy’n mynd i gyseinio yn bell. Mae’r posibiliadau’n gyffrous achos mae’n gallu rhoi platfform i hybu’r Gymraeg drwy greu stori sy just am gariad. Sa fo’n grêt mynd a hwn i Gaeredin neu yn Rhyngwladol. Dyna ydy o ar ddiwedd y dydd ydy stori syml am gariad. So er mai dau ddyn da ni’n gweld yn hwn, does ‘na ddim rhwystre i unrhywun o unrhyw ryw neu unrhyw rywioldeb.

Ma na nifer o ystrydebau yn bodoli am ddynion hoyw neu berthnasau hoyw. Dwi’n teimlo ei bod hi’n gyffrous bod awdur yn mynd ati i geisio gwaredu rhai o’r ystrydebau hynny, neu gynnig rhywfaint o nuance i gynulleidfa ynglŷn â pherthnasau o unrhyw fath.

Ma hynny’n rhywbeth dwi’n trio osgoi: ystrydebu. Achos be ydy hi ydy drama am ddau ddyn mewn cariad ond hefyd dau ddiwylliant sy’n cwrdd, ac yn gwrthdaro, ac yn trio mynd ar yr un trywydd, yn trio cyd-fodoli. Dwi’n gobeithio fy mod yn portreadu safbwynt onest am y ddau ddiwylliant; y diwylliant heteronormaidd a diwylliant rhai dynion hoyw. Achos dyna dwi di brofi. Felly dwi’n meddwl y bydd hi’n sgwrs rili difyr o ran y diwylliannau yna. Ma gan un o’r cymeriada y front yma, sef fo yn tynnu ar yr ystrydebau yma o ddyn hoyw, a ti’n gweld y dyn arall yma’n dod mewn i’w fywyd o a just yn stripio nhw, stripio’r ystrydebau a stripio fo a dadadeiladu fo wrth iddo fo drio imposio’r petha ma sy’n cael eu imposio arnon ni o ddydd i ddydd. Be am i mi wrando ar Esyllt, gwrando ar Elgan, sut ydw i’n mynd i fod mewn perthynas er lles fi fy hun.

Dyma dy ddrama fawr gynta di ar dy liwt dy hun?

Ie – comisiwn cynta drama lawn ar gyfer y llwyfan, mae’n fraint fel y diawl! Dwi just di neud o, dwi just di mynd amdani ers y comisiwn, gweithio’n rili galed i wneud o mor dda a gallith o fod, a dwi wedi herio fy hun, ffurf y peth. Sut dwi isho deud y stori yma. Ma gen i ddiddordeb mawr yn sut ma ffurf a stori yn bwydo ei gilydd wrth i naratif ddatblygu. Bydd o’n ddifyr i weld ymateb y gynulleidfa, dylen nhw beidio disgwyl gweld rhywbeth traddodiadol o ran ffurf y peth. Mae’n eitha pytiog, episodig. Ma gen ti amrywiaeth o ran monologau a deialogau, ma na dipyn o wead yn perthyn iddo fo.

Felly – ydy ‘Woof’ yn ddrama “arbrofol” (gair sy’n cael ei orddefnyddio efallai!)?

Dwi’n meddwl ei bod hi’n eofn. Mae’n neud fi deimlo’n sick...

Mae’n neud ti deimlo’n sick?!

Ydy mae’n neud fi deimlo’n sick !!... Ond dwi’n teimlo’n saff o fewn y sick yna achos mae na dîm artistig briliant wedi gwneud gwaith gwych o ran sut maen nhw wedi mynd ati i’w chyflwyno hi, o ran y sain, y goleuo, perfformiadau, cyfarwyddo. Dwi’n teimlo’n hollol saff o ran be sy’n mynd i gael ei ddangos ond dwi’n teimlo’n sick oherwydd mae o’n teimlo fel camp ar sawl lefel, ma na lot o onestrwydd, a brutality o fewn y gonestrwydd yna. Ond dwi’n gyffrous ar yr un pryd!

Ond am wn i fydde fe ddim werth ei neud heblaw bod e’n neud i ti deimlo rhwbeth?

Na yn union. Yr adeg yma cyn cynhyrchiad dwi wastad yn holi fy hun ‘Pam ddiawl ydw i’n neud hyn i fy hun?!’ A dwi’n dod yn ôl i’r ffaith mod i’n poeni amdano fo. Dwi’n gobeithio y bydd pobl yn teimlo ac yn cwestiynu y petha dwi wedi’u teimlo a’u cwestiynu wrth sgwennu fo. A just gobeithio y bydd o’n cyseinio efo pobl, ac yn cwestiynu eu lle nhw o fewn eu diwylliannau nhw a’r diwylliannau sy’n eu hamgylchynu nhw. Cwestiynu sut y gallan nhw fod y gora y gallan nhw fod! Ie dwi’n meddwl y bydd o’n eofn ac yn heriol... ac yn emosiynol iawn.

Byse ti’n gallu dweud *bach* am estheteg y cynhyrchiad heb ddatgelu gormod?

Mae’r llwyfan ynghanol y cylch, wedi’i amgylchynu gan y gynulleidfa... ha! Fedrai’m deud lot, ond mae o’n eitha stylistic, yn slic a llyfn, heightened reality. Ac mae’r goleuo a’r sain yn bwysig iawn, yn ddifyr iawn. Elin Steele sydd wedi dylunio’r set a’r gwisgoedd, sydd hefyd yn eofn. Mae’r gofod yn y stiwdio wedi’i thrawsnewid, dwi erioed wedi gweld y stiwdio fel’na o’r blaen. Mae’n teimlo’n fowr, mae o’n bach o beast.

Set Elin Steele ar gyfer Woof (Llun Chris Lloyd)

Fel dramodydd ifanc, oes gen ti gyngor i bobl sydd a diddordeb i fynd i fyd y ddrama, boed fel sgwennwr, actor neu gyfarwyddwr?

Bod yn proactive, just creu a rhannu efo cyfoedion, pobl dachi’n ymddiried ynddyn nhw. Gwrando ac ymateb a gwthio’ch hunain a gwthio eraill i wrando ar eich gwaith. A chael ffydd ynddoch chi eich hun, achos ma pawb yn artist. Wrth neud hynny i gyd, dod yn ôl atoch chi eich hunan, a bod yn driw i’ch llais a’ch crefft eich hun. Gwthio fo, rhannu fo, dathlu fo a’i gofleidio fo efo pobol sy’n gneud chi deimlo’n dda... A peidio bod ofn gofyn am help. Ma’r broses o sgwennu’r ddrama hon di bod yn eitha unig, mae’n hawdd mynd mewn i rut, ti dy hun o fewn dy hun. Felly mae’n bwysig gofyn i bobl am gymorth.

Ti’n son am bwysigrwydd mynd a’r diwylliant Cymraeg allan i’r byd a bloeddio yn ei gylch... ma na isdeitlau’n mynd i fod yn y ddrama yn does? Ti’n gobeithio y bydd hynny’n galluogi creu trafodaeth mwy agored am theatr yng Nghymru?

Dwi’n meddwl fod o’n wych i greu profiade hygyrch i bobl di-Gymraeg i allu perchnogi a dathlu’r iaith Gymraeg hefyd. ‘Fel Anifail’ oedd y sioe gyntaf i’r Sherman i roi is-deitlau iddi dwi’n meddwl, a dwi’n nabod pobol di-Gymraeg sy’n dod oherwydd yr isdeitlau. Mae’r iaith yn onest, ma bach o Saesneg yn dod mewn i’n sgyrsie ni. Ond mae’r ffordd ma Gethin wedi cyfarwyddo’r ddrama, ma hi’n weledol iawn, felly bydd hi’n ddiddorol gweld faint fydd pobl yn gorfod dibynnu ar yr isdeitlau. Ond ma nhw yna i helpu. Ie, mae’n gyffrous.

Beth yw dy obeithion ar gyfer ‘Woof’ yn yr hirdymor?

Swn i’n hoffi ei weld e’n mynd o gwmpas Cymru... a thu hwnt. Ma na le i’r stori gal ei rhannu, ar blatfform rhyngwladol. Mae’n teimlo’n bwysicach fyth heddiw i hybu diwylliant Cymru drwy naratif a stori sy’n mynd i gyseinio yn rhyngwladol. Dwi’n meddwl fod na gyfrifoldeb, o ran budd y cyhoedd a budd Cymru, i fynd a gwaith o safon allan i’r byd a sgrechian a dathlu am ein celfyddyd ni... Ond gawn ni weld sut ymateb fydd i’r ddrama!

Mae 'Woof' yn rhedeg tan nos Sadwrn yn Theatr y Sherman, Caerdydd. Gellir prynu tocynnau fan hyn: https://www.shermantheatre.co.uk/performance/theatr/woof-cy/

(Ewch da chi)

Cynhaliwyd y cyfweliad uchod gan Esyllt Lewis ar ran Y Stamp

Previous
Previous

Celf: Machlud, Yr Enfys, a dathlu hunaniaeth - Gwen ap Robert

Next
Next

bob dydd, bob dydd, darluniaf _______ bob dydd - Esyllt Lewis