ARCHIF
~
ARCHIF ~
Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.
Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com
POPETH / Adolygiadau / Amrywiol / Barddoniaeth / Cardiau Post Creadigol / Celf / Cyfweliadau / Rhestrau Darllen / Rhyddiaith Greadigol / Ysgrifau
CATEGORIAU ARBENNIG: MIS HANES LHDTC+ 2019 / MIS MUDO / GŴYL INSTAGERDDI 2019 / MIS BACH GWYRDD 2020
Trafod: Arf ac Anrheg - Daf Prys
Mae Seattle yn lle hynod ddiddorol i fyw rhwng y wleidyddiaeth ffraeth a’r elfen technolegol – mae Bob Ferguson a erlynodd bolisi ‘Muslim Ban’ yn pin-up yma ac mae’r ddinas yn gartref i Amazon, Microsoft a Boeing. Wedi dweud hynny does dim llawer o wahaniaeth i fyw yng Ngymru, yn enwedig Ceredigion (ond am y sushi, sy’n benigamp yma). Mae’r syniadaeth yn radical, mae’r ardal yn fwrlwm o ddinasyddion bydol ac mae’n glawio yn ddibaid. Ond er bod bywyd o ddydd i ddydd yma’n hynod debyg, does dim cysyniad yma o ran beth yw Cymru.
Ysgrif: Llefydd Symudol - Morgan Owen
Oriog a chyfnewidiol yw daearyddiaeth breuddwydion. Gŵyr pawb fel mae’r breuddwydiwr yn chwannog i gael ei hunan mewn lleoliad newydd megis ar amrantiad ac yn ddirybudd; neu fel y bydd dau le a wahenir gan bellteroedd meithion yn y byd effro yn ffinio ac yn ymdoddi i’w gilydd rywsut pan fydd y byd hwnnw ynghladd dan gyfaredd hunedd.
Dathlu: Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2017
Mae dwy ferch ar fwrdd olygyddol Y Stamp, ond pedwar ffeminist. Ac phob un ohonom yn gytun na ellid gadael i Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched eleni fynd heb ei nodi.
Gan ddechrau yng Nghymru Fach, gallwn weld lle i ddeisyfu mwy o leisiau benywaidd yn mynd ati i osod eu stamp (no pun intended!) ar y sin lenyddol yng Nghymru. Mae pethau wedi gwella’n aruthrol ond nid yw’r gynrychiolaeth o ran y rhywiau yn gyfartal, o hyd. Gofynnwyd i dri darllenydd – Elinor Wyn Reynolds, Ifan Morgan Jones a Hannah Sams – i rannu eu profiadau hwy o ddarganfod lleisiau benywaidd yn ein llenyddiaeth, ac mae ymateb y tri yn cynnwys sylwadau a chwestiynau pur ddiddorol.
Dyddiadur Teithio: El Bolsón – Elin Gruffydd [Rhan 2]
Nos Sul yn El Bolsón. Un o nosweithia mwya bizzare fy mywyd. Ar ôl swpar, dyma rhywun yn awgrymu ein bod ni’n cael sesiwn eyegazing. Doni’m yn dalld be odd hynny, ond ma’r gair basically yn disgrifio’i hun. Natha ni gyd ymgynull yn ein yurt ni ac eistedd ar lawr. Odda ni fod i ffindio partnar, eistedd gyferbyn, a jesd sbio fewn i lygaid ein gilydd am dri munud. Dim siarad, dim unryw fath o sŵn, jesd eye contact. Dwi’n gwybod, ma’n swnio’n hollol redicilys.
Dyddiadur Teithio: Salar de Uyuni & El Bolsón – Elin Gruffydd
Natha ni adael Uyuni am 10:30 ar gyfer y tour o’r fflatiau halen mewn Jeep. O’r bora cynta un dyma fi’n cal nickname anffodus, Miss Brexit. Gan ein bod ni’n grwp Ewropeaidd iawn – rhai o Sweden, yr Almaen, Ffrainc a Chymru – roedd gendda nhw i gyd lot o ddiddordab yn y matar, ac yn gofyn be ddiawl sy’n bod efo ni. Neshi drio ngora i amddiffyn fy hun a pwysleisio mod i 100% yn erbyn y peth, ond odda nhw’n gweld o’n ddoniol mod i’n mynd mor worked up, felly nath yr enw sticio. A trwy’r holl daith, os oddna wbath yn mynd o’i le, bai Brexit oddo.
Profiad: Gobaith - Mary Muse
Roedd Washington, mae’n debyg, fel dwy ddinas wahanol ar y 21ain a’r 22ain o Ionawr eleni. Meddianwyd y ddinas gan drigolion dwy wlad wahanol ar y deuddydd rheini, dwy wlad sy’n honni eu bod nhw prin yn medru adnobod eu gilydd erbyn hyn.