ARCHIF

~

ARCHIF ~

Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.

Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com

Adolygiad: Mags
Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Adolygiad: Mags

Pobl. Mae miliynau ohonynt yn y byd, ac er cymaint yr ydym yn ei nabod, ydyn ni wir yn ein adnabod ein hunain? Dyma oedd wrth wraidd ddrama Mags gan Elgan Rhys yn Theatr y Sherman.

Read More
Adolygiad: Hela
Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Adolygiad: Hela

Aeth un o'n hadolygwyr draw ar noson oer o Dachwedd yn y brifddinas i weld drama gyntaf Mari Izzard, 'Hela', yn theatr-dafarn 'The Other Room', Caerdydd.

Read More
Holi: Off y grid
Cyfweliadau Cyhoeddiadau'r Stamp Cyfweliadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Holi: Off y grid

Cynhelir noson lansio nawfed rhifyn Y Stamp gyda dangosiadau o ffilmiau byrion gan Off y Grid yn Neuadd Ogwen, Bethesda ar nos Fercher 4 Rhagfyr am 19:00.

Read More
Adolygiad: Paentiadau Newydd yn 85 Oed - Mary Lloyd Jones
Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Adolygiad: Paentiadau Newydd yn 85 Oed - Mary Lloyd Jones

Mae’r artist Mary Lloyd Jones yn enwog am yr ymdriniaeth gyfoes o hanes yn ei gwaith, wrth blethu symbolau o’r henfyd gyda’i dehongliad unigryw o dirwedd Cymru. Mae ei gwaith yn ein gorfodi i ailystyried tirlun hynod gyfarwydd – Cymru a’i mynyddoedd a’i hafonydd ac olion ei diwydiant.

Read More