Newyddion: Silff lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru - Hydref 2022
Rydym yn falch iawn o weld merch y llyn (2021) gan Grug Muse, enillydd categori barddoniaeth gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2022, ar silff lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru Hydref 2022.
Digwyddiadau: Ystlum - Elen Ifan
Manylion dau ddigwyddiad cyfnosol braf, am ddim, i ddathlu lansio 'Ystlum' gan Elen Ifan.
Cyhoeddiad: Ystlum - Elen Ifan
Ym mis Tachwedd eleni bydd Cyhoeddiadau’r Stamp yn rhyddhau Ystlum, pamffled o farddoniaeth gan Elen Ifan, sydd eisoes wedi cyhoeddi rhai o gerddi’r casgliad fel instagerddi trwy @ystlum.
Galwad agored: Ffosfforws 3
Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn gwahodd beirdd i anfon eu cerddi er ystyriaeth i’w cyhoeddi yng nghyfnodolyn FFOSFFORWS. Mae’r cyhoeddiad hwn yn agored i gerddi o bob math ac ar unrhyw thema.
Newyddion: Llinos Anwyl - golygydd gwadd Ffosfforws 3
Addysgwr ac ymgyrchydd yw Llinos (nhw/eu) sy’n creu celf a llenyddiaeth â chymhelliant gwleidyddol. Maen nhw’n pwysleisio pwysigrwydd rhyngddisgyblaethrwydd wrth lwyfannu pynciau sy’n aml yn cael eu portreadu’n ‘academaidd’ drwy ddulliau llai traddodiadol.
Newyddion: merch y llyn - Enillydd Categori Barddoniaeth #LlYF22
merch y llyn gan Grug Muse trwy Gyhoeddiadau’r Stamp yw enillydd categori barddoniaeth gwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru 2022.
Newyddion: Steddfod y Stampwyr
Rhestr o ddigwyddiadau Cyhoeddiadau’r Stamp ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Eleni.
Cyhoeddiad: Ffosfforws 2 - gol. Mari Elen
Mae’n fraint gennym ddatgelu clawr a chyfrannwyr ail rifyn cyfnodolyn barddoniaeth Ffosfforws, a gyhoeddir yn Eisteddfod Tregaron.
Newyddion: Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2022
Rydym yn falch iawn o rannu fod merch y llyn gan Grug Muse a Stafelloedd Amhenodol gan Iestyn Tyne wedi cyrraedd rhestr fer categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2022, a weinyddir gan Llenyddiaeth Cymru.
Cyhoeddiad: Caniadau’r Ffermwr Gwyllt - Sam Robinson
Dyma ddilyniant o gerddi cwbl unigryw sy’n crwydro’r ffin rhwng y diriaethol a byd breuddwydion, yn cynnig sylwebaeth graff ar fywyd yng nghefn gwlad heddiw, ac yn gyfoethog yn eu cyfeiriadaeth. Os beirniadwyd barddoniaeth wledig y Gymraeg am or-sentimentaleiddio yn y gorffennol, dyma gerddi am heddiw ac yfory cymunedau amaethyddol.
Galwad agored: Ffosfforws 2
Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn gwahodd beirdd i anfon eu cerddi er ystyriaeth i’w cyhoeddi yng nghyfnodolyn FFOSFFORWS. Mae’r cyhoeddiad hwn yn agored i gerddi o bob math ac ar unrhyw thema.
Newyddion: Mari Elen - golygydd gwadd Ffosfforws 2
Ar gyfer pob rhifyn o FFOSFFORWS, cyfnodolyn barddoniaeth Cyhoeddiadau’r Stamp, rydym yn gofyn i olygydd gwadd gwahanol ymgymryd a’r gwaith o ddewis a dethol y cerddi a gyhoeddwn. Rydan ni’n falch eithriadol o gyhoeddi mai golygydd gwadd Rhifyn 2 fydd Mari Elen.
Cyhoeddiad: merch y llyn / Stafelloedd Amhenodol
Mae’n bleser gennym ddwbl-ddatgelu cloriau cyfrolau newydd o farddoniaeth gan Grug Muse ac Iestyn Tyne, fydd yn glanio ar 20 Hydref.
Galwad agored: Ffosfforws 1
Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn gwahodd beirdd i anfon eu cerddi er ystyriaeth i’w cyhoeddi yng nghyfnodolyn newydd FFOSFFORWS. Mae’r cyhoeddiad newydd sbon hwn yn agored i gerddi o bob math ac ar unrhyw thema.
Newyddion: Ciarán Eynon - golygydd gwadd Ffosfforws 1
Ar gyfer pob rhifyn o FFOSFFORWS, byddwn yn gofyn i olygydd gwadd gwahanol ymgymryd a’r gwaith o ddewis a dethol y cerddi a gyhoeddwn. Rydym yn falch iawn o rannu’r newyddion mai golygydd gwadd Rhifyn 1 fydd Ciarán Eynon.
Cyhoeddiad: Pendil - John G. Rowlands
Mae’n bleser rhannu mai pendil gan John G. Rowlands yw cyfrol unigol nesaf Cyhoeddiadau’r Stamp; dyma gyfrol o haiku, senryū a cherddi byrion eraill gan arloeswr o fardd sydd â’r ddawn i grisialu ennyd mewn amser gydag ychydig iawn o eiriau.
Cyhoeddiad: Ffosfforws
Yn cyflwyno: FFOSFFORWS, cyfnodolyn newydd fydd yn rhoi llwyfan i’r sbectrwm o leisiau sydd ym myd barddoniaeth Gymraeg; casgliad o 15 cerdd wedi eu curadu o alwad agored, gyda golygydd gwadd gwahanol ar gyfer pob rhifyn.
Cyhoeddiad: Triongl
Y pamffled nesaf a gyhoeddir gan Gyhoeddiadau’r Stamp fydd Triongl, casgliad o bymtheg cerdd gan bymtheg bardd mewn ymateb i ddelweddau gan y ffotograffydd Lena Jeanne o Borthaethwy. Mae Triongl yn cynnwys cerddi Cymraeg, Saesneg a Gwyddeleg gan Annes Glynn, Ciara Ní É, Caryl Bryn, Catrin Menai, Glyn F. Edwards, Lowri Hedd, Marged Elen Wiliam, Mari Elen, Morwen Brosschot, Roísín Sheehy, Rhys Trimble, Siân Miriam, Yasus Afari a Zoë Skoulding. Curadwyd a golygwyd y casgliad gan Iestyn Tyne.
Datganiad: #BDS
Mi fydd gwefan arferol ac archif cynnwys ar-lein y Stamp i lawr am gyfnod, wrth i ni symud oddi wrth Wix, at ddarparwr gwefannau sydd ddim yn cefnogi apartheid yn Israel.
Y mae dogfennaeth glir a diamheuol fod polisïau llywodraeth Israel yn cyflawni troseddau yn erbyn dynoliaeth wrth gynnal stad apartheid yn Israel a Phalesteina. Mae’r polisi bwriadol o barhau i adeiladu gwladychfeydd anghyfreithlon ar dir Palesteinaidd yn difa unrhyw obaith am broses heddwch yn y dyfodol. Mae bywydau Palesteinaidd o bwys.
Cyhoeddiad: Lansio ‘Stwff ma hogia ‘di ddeud wrtha fi’ - Llio Elain Maddocks
Mae Stwff ma hogia 'di ddeud wrtha fi gan Llio Elain Maddocks ar ei ffordd o'r wasg ac mi fyddwn ni'n dathlu gyda noson arbennig o farddoniaeth gan leinyp o feirdd anhygoel fydd yn ymuno â Llio i berfformio eu gwaith: Ciara Ní É, Elen Ifan, Jaffrin, Mari Elen a Taylor Edmonds.