ARCHIF
~
ARCHIF ~
Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.
Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com
POPETH / Adolygiadau / Amrywiol / Barddoniaeth / Cardiau Post Creadigol / Celf / Cyfweliadau / Rhestrau Darllen / Rhyddiaith Greadigol / Ysgrifau
CATEGORIAU ARBENNIG: MIS HANES LHDTC+ 2019 / MIS MUDO / GŴYL INSTAGERDDI 2019 / MIS BACH GWYRDD 2020
Cerdd: Sul y Carnifal - Matthew Tucker
Bu awelon cred yn newid eu cwrs / y bore hwnnw. / Daethant, ar wib, i mewn dros y môr …
Cerddi: Borewylwyr / Llwyngan - Morgan Owen
Tyrfau yn y bore bach yn tarfu / a lluchedau glaswyn yn canghennu …
Ffotograffiaeth a Cherddi: Gwobr Bensaerniaeth - James Morris a Grug Muse
Eleni eto comisiynwyd bardd a ffotograffydd i ddehongli’r adeiladau a enwebwyd ar gyfer gwobr Bensaernïaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn. Roedd pedwar adeilad yn y ras eleni- Ysgol Bae Baglan, Ysgol Uwchradd y Rhyl, adeilad CUBRIC yng Nghaerdydd, a Silver House ar benrhyn Gwyr. Ysgol Bae Baglan oedd yn fuddugol, ond cafodd y ffotograffydd James Morris a’r bardd Grug Muse y pleser o ymweld a’r pedwar. Mewn cydweithrediad a’r Lle Celf felly, dyma rannu ffrwyth eu llafur.
Cerdd: Trafferth mewn Onsen - Llio Elain Maddocks
Ydwi fod yn noeth? / Mae’r bobl eraill yn noeth / Ond mae ‘nghorff i’n swil.
Cerdd: Dowlais (Marwnad Hwyrfrydig) - Morgan Owen
Gadewais y llyfrgell / i weld bod drycin pythefnos / wedi pasio’n ddirgel …
Cerdd: Dyn-gar-gwch - Lowri Hedd
Rhag dysgedigaeth ofn a bai / trown gefn a meithrin anian …
Cerdyn Post Creadigol: Indonesia - Mari Huws
Mae coedwig law Indonesia yn diflannu er mwyn clirio tir argyfer planhigfeydd Palm Oil. Dwi wedi pacio fy mhac a rhoi fy hun ar awyren yma i ddogfennu’r rhyfeddodau a’r effaith ma’r digoedwigo yma yn ei gael ar fywyd gwyllt a cymunedau, drwy ffilm, ffotograffiaeth a geiriau cyn iddi fynd rhy hwyr.
Cerddi: Cerddi Amsterdam - Beth Celyn
Cerdd: Druidstone - Elen Ifan
Heidio eto i ben Sir Benfro …
Cerdd: Cadenza Cerddorfa’r Orsaf - Awen Fflur
Maen nhw yma, yn eu miloedd, / a diben pendant i daith pob un
Cerddi: ‘Dychlamiad’ a ‘Carn Llidi’ - Morgan Owen
Darllen yr oeddwn yng nghlydwch fy / stafell pan ddychlamodd golau'r bylb
Cerdd: Y Stamp - Eurig Salisbury
Rho dy stamp direidus di / dy hun ar y dadeni …
Cerdyn Post Creadigol: Klagenfurt - Elin Wyn Erfyl Jones
Dwi newydd orffen tymor yn gweithio fel cynorthwyydd iaith ar gyfer y Cyngor Prydeinig, lle bues i’n dysgu Saesneg mewn dwy ysgol uwchradd yn Klagenfurt, Awstria.
Cerdd: Cariad na fu na fydd - Hynek Janoušek
Edrychaf ar y lleuad / fel cylch anghyflawn o’n cariad
Cerdd: Gwersi Hanes - Iestyn Tyne
Ai catalogio yw’n natur ni; / dogfennu popeth yn gymen / cyn ei ddinistrio?
Cerdd: Torrydd Eisteddfod - Rhys Trimble
megis techneg Gysin a Burroughs o’r deunydd Eisteddfodol canlynol: Ifor ap Glyn, Cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt, Perffomiad/ Defod wedi ei gynnal ar maes yr eisteddfod gyda thalp o ia.
Cerdd: Kalamari - Caryl Bryn
Fin nos fan hyn / Lladdwyd sgwid. / Mae’n debyg yr anghofia’i hyn.
Cerdyn Post Creadigol: Berlin - Miriam Elin Jones
‘Aeth Aled fy nghariad a finnau ar wyliau byr i Berlin jyst cyn Nadolig, gyda’r bwriad o ymweld â marchnadoedd Nadolig niferus y ddinas. Ar ddiwedd ein diwrnod cyfan cyntaf yno, gyrrwyd lorri yn fwriadol i ganol un o’r marchnadoedd hynny, gan ladd deuddeg o bobol. Diolch byth, roeddwn ni’n dau yn ddigon pell oddi yno, ond cafodd effaith arnom wrth dreulio’r tridiau nesaf yn crwydro’r ddinas.