Cyhoeddiadau: Sgriptiau Stampus - Croendena ac Imrie
Mewn cydweithrediad â Frân Wen, mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn falch o gyflwyno dwy gyfrol gyntaf y gyfres Sgriptiau Stampus, sef Croendena gan Mared Llywelyn ac Imrie gan Nia Morais.
Cyhoeddiad: Ffosfforws 4 - gol. Carwyn Eckley
Daeth yn bryd cyhoeddi clawr a chyfranwyr pedwerydd rhifyn Ffosfforws, ein cyfnodolyn barddoniaeth, a olygwyd y tro hwn gan Carwyn Eckley.
Cyhoeddiad: A’r Ddaear ar Ddim - Siân Melangell Dafydd
Egin nofel gan Siân Melangell Dafydd yw cyfrol ryddiaith gyntaf Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddir A’r Ddaear ar Ddim i godi arian ar gyfer dioddefwyr daeargryn Twrci a Syria yn Chwefror 2023.
Galwad Agored: Ffosfforws 4
Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn gwahodd beirdd i anfon eu cerddi er ystyriaeth i’w cyhoeddi yn rhifyn haf 2023 cyfnodolyn FFOSFFORWS. Mae’r cyhoeddiad hwn yn agored i gerddi o bob math ac ar unrhyw thema.
Digwyddiad: Swper y Beirdd - Machynlleth
Grug Muse, Morgan Owen a Sam Robinson ymhlith perfformwyr 'Swper y Beirdd' - noson agoriadol gwyl lenyddol Amdani, Fachynlleth!, ynghyd a sawl llais stampus arall.
Newyddion: Carwyn Eckley - golygydd gwadd Ffosfforws 4
“Y math o farddoniaeth sy'n mynd â 'ngwynt i […] ydy barddoniaeth sy'n gwneud i rhywun deimlo rhywbeth - gorau oll os ydy hynny mewn Cymraeg bob dydd. Dwi'n gredwr cryf y dylai barddoniaeth fod yn hygyrch i bobl y tu allan i 'gylchoedd llenyddol' - o ran iaith ac y gallu i'w ddarganfod.”
Cyhoeddiad: Ffosfforws 3 - gol. Llinos Anwyl
Mae’n fraint gennym ddatgelu clawr a chyfrannwyr trydydd rhifyn Ffosfforws, cyfnodolyn barddoniaeth Cyhoeddiadau’r Stamp.
Darllen 2022: dewisiadau’r golygyddion
Esyllt, Grug a Iestyn yn dewis eu huchafbwyntiau darllen ar gyfer 2022
Newyddion: digideiddio Addunedau
Gyda ‘Celf Fodern’ yn ddarn gosod ar gyfer Llefaru Bl. 10 a dan 19 oed yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023, rydym wedi rhyddhau Addunedau i’w phrynu a’i lawrlwytho fel cyfrol ddigidol.
Newyddion: Ailargraffu ‘Ystlum’
Gorchwyl braf yw rhannu fod Ystlum, y casgliad cyhoeddedig cyntaf o farddoniaeth gan Elen Ifan, yn y broses o gael ei ailargraffu, lai na mis ers y dyddiad cyhoeddi gwreiddiol.
Newyddion: Silff lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru - Hydref 2022
Rydym yn falch iawn o weld merch y llyn (2021) gan Grug Muse, enillydd categori barddoniaeth gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2022, ar silff lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru Hydref 2022.
Digwyddiadau: Ystlum - Elen Ifan
Manylion dau ddigwyddiad cyfnosol braf, am ddim, i ddathlu lansio 'Ystlum' gan Elen Ifan.
Cyhoeddiad: Ystlum - Elen Ifan
Ym mis Tachwedd eleni bydd Cyhoeddiadau’r Stamp yn rhyddhau Ystlum, pamffled o farddoniaeth gan Elen Ifan, sydd eisoes wedi cyhoeddi rhai o gerddi’r casgliad fel instagerddi trwy @ystlum.
Galwad agored: Ffosfforws 3
Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn gwahodd beirdd i anfon eu cerddi er ystyriaeth i’w cyhoeddi yng nghyfnodolyn FFOSFFORWS. Mae’r cyhoeddiad hwn yn agored i gerddi o bob math ac ar unrhyw thema.
Newyddion: Llinos Anwyl - golygydd gwadd Ffosfforws 3
Addysgwr ac ymgyrchydd yw Llinos (nhw/eu) sy’n creu celf a llenyddiaeth â chymhelliant gwleidyddol. Maen nhw’n pwysleisio pwysigrwydd rhyngddisgyblaethrwydd wrth lwyfannu pynciau sy’n aml yn cael eu portreadu’n ‘academaidd’ drwy ddulliau llai traddodiadol.
Newyddion: merch y llyn - Enillydd Categori Barddoniaeth #LlYF22
merch y llyn gan Grug Muse trwy Gyhoeddiadau’r Stamp yw enillydd categori barddoniaeth gwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru 2022.
Newyddion: Steddfod y Stampwyr
Rhestr o ddigwyddiadau Cyhoeddiadau’r Stamp ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Eleni.
Cyhoeddiad: Ffosfforws 2 - gol. Mari Elen
Mae’n fraint gennym ddatgelu clawr a chyfrannwyr ail rifyn cyfnodolyn barddoniaeth Ffosfforws, a gyhoeddir yn Eisteddfod Tregaron.
Newyddion: Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2022
Rydym yn falch iawn o rannu fod merch y llyn gan Grug Muse a Stafelloedd Amhenodol gan Iestyn Tyne wedi cyrraedd rhestr fer categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2022, a weinyddir gan Llenyddiaeth Cymru.
Cyhoeddiad: Caniadau’r Ffermwr Gwyllt - Sam Robinson
Dyma ddilyniant o gerddi cwbl unigryw sy’n crwydro’r ffin rhwng y diriaethol a byd breuddwydion, yn cynnig sylwebaeth graff ar fywyd yng nghefn gwlad heddiw, ac yn gyfoethog yn eu cyfeiriadaeth. Os beirniadwyd barddoniaeth wledig y Gymraeg am or-sentimentaleiddio yn y gorffennol, dyma gerddi am heddiw ac yfory cymunedau amaethyddol.