ARCHIF
~
ARCHIF ~
Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.
Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com
POPETH / Adolygiadau / Amrywiol / Barddoniaeth / Cardiau Post Creadigol / Celf / Cyfweliadau / Rhestrau Darllen / Rhyddiaith Greadigol / Ysgrifau
CATEGORIAU ARBENNIG: MIS HANES LHDTC+ 2019 / MIS MUDO / GŴYL INSTAGERDDI 2019 / MIS BACH GWYRDD 2020
Stori Fer: O'r Môr #1. DON'T DRINK SEA WATER - Mari Huws
Roedd y dingi oren yn arnofio ar wyneb y dŵr yn dawel. Dim tir, dim llong, dim aderyn. Dim i’w weld ond gwyneb tawel y dŵr, y tri corff o’i flaen a’r bag. Drwy gil ei lygaid edrychodd Qian ar linell syth y gorwel, llinell syth fel petai rhywun wedi ei thynnu gyda phren mesur. Y linell syth sy’n gwahanu’r môr a’r awyr. Awyr di gwmwl. Y ddau fod mawr, meddyliodd. Y môr a’r awyr. Anfarth.
Ysgrif: Derlwyni - Morgan Owen
Pwy fuasai’n meddwl bod yna gilcynnos o goedwigoedd derw hynafol ar y llethrau uwchben Merthyr ar ochrau’r cwm llydan hwnnw? Ar ddiwrnod o haf, maen nhw’n ddigon gweladwy o’r dref islaw, ac nid yw’n anodd gwahaniaethu rhwng y glesni goleuach, gwasgarog hwn a thywyllwch y rhesi bythwyrdd byddinog agosach at y grib, er bod y planhigfeydd hynny’n cael eu clirio’n ara’ deg.
Cerddi: Dyfrgwn, Llysywen - Morwen Brosschot
Dro'n ôl tua deg y nos mi es ar fy sgowt feunosol o gwmpas yr ardd efo torts ar fy mhen ac i lawr at yr afon /nant. Noson sych, dawel a dim egryn o awel. Rôn i'n edrych i mewn i'r pwll bychan sy ar lan yr afon pan glywish i sŵn cnoi tu ôl i mi
Ymateb: Y Lle Celf - Bethan Scorey
Mae arddangosfeydd celf yn amlach na pheidio yn gaeedig a’n fewnsyllgar, wedi’u curadu i sicrhau fod y celf yn ganolog. Gallwn ddisgrifio’r Lle Celf arferol yn y modd hwn; byd bychan sy’n teimlo fel cyrchfan megis gardd waliog. Bodola’r Lle Celf dros dro, felly mae’r curaduron yn wynebu’r sialens o gynhyrchu ‘lleoliad’ newydd yn flynyddol. Mae’r arddangosfa gan amlaf ar raddfa ddomestig, sy’n cyferbynnu’n addas efo tirweddau eang a gwledig a maes yr Eisteddfod, ac yn sicrhau mai’r celf sy’n llenwi’r gofod.
Ymateb: Awdl y Gadair - Judith Musker Turner
Addas, wrth ystyried pwnc ei awdl, oedd i mi glywed y newyddion bod Gruffudd Eifion Owen wedi ennill y Gadair eleni dros Trydar, ac i mi gael fy mlas cyntaf o’i gerdd ar fideo a grëwyd ohoni gan Hansh ar gyfer YouTube (rwy’n hoff iawn o gyfres Beirdd // Beats fel ffordd wahanol o rannu barddoniaeth), a hynny ymhell cyn cael gafael ar gopi o’r Cyfansoddiadau.
Ymateb: Llyfr Glas Nebo - Sioned Haf Thomas
Sai eriod ’di gweld nofel Gymrâg yn cal gwmynt o ymateb cadarnhaol ar y cyfryngfe cymdeithasol â beth ma Llyfr Glas Nebo wedi’i chal ers iddi ennill y Fedal Rhyddiaith yn y Steddfod. A ma ’na rheswm pam. Alla i wirioneddol weud mai co un o’r nofele gore dw’i eriod wedi’i darllen. Es i ati i ddarllen y nofel dwrnod ar ôl i’r Steddfod feni a wên i’n gwbod ei bod hi’n un eithriadol o dda, ond sai’n credu y galle Manon ei hun fod wedi dychmygu y byse’r llyfyr yn cal y fath ymateb ar y fath sgêl chwaith.
Ymateb: Golau Byw - Manon Awst
Wel, a'r steddfod bellach yn ddim byd mwy na atgof, dyma gyfle i edrych yn ôl ar yr wythnos a’i hadladd. Yn ystod yr wythnos, gofynodd Y Stamp i ambell berson daro golwg ar gynnyrch ac arddangosfeydd yr eisteddfod, ac adrodd yn ôl i ni yn fama yn Stamp HQ. Y cyntaf i wneud hynny ydi Manon Awst, a fu i stondin ‘Gwyddoniaeth y Môr’ Prifysgol Caerdydd yn y Babell Wyddoniaeth ar ein rhan.
Adolygiad: Taith yr Aderyn - Alun Jones
Mae hon yn nofel sydd yn anodd i’w gosod mewn bocs bach taclus, a da hynny. Ydi hi’n nofel ffantasi? Mae rhai nodweddion yn awgrymu hynny, arallfyd, enwau anghyfarwydd, map ar y tudalennau blaen. Nofel antur? Nofel daith? Ond oes ots? Gwell efallai fyddai dweud ei bod yn nofel dda.
Adolygiad: Forbidden Lives - Norena Shopland
Mae llawer ohonom efallai’n ymwybodol o wahanol bobl LHDT yn hanes Cymru. Cranogwen, Ladies of Llangollen a Henry Paget 5ed Ardalydd Môn. Ond mae Forbidden Lives yn adrodd straeon nifer mawr o bobl sydd wedi cael effaith ar y ffordd mae pobl yn gweld pobl LHDT yng Nghymru a thu hwnt.
Stori Fer: Y Gwydr - D. D. Owen
- Odw, rwy'n falch ohonyn nhw. Tair seren! S'dim llawer â chymaint – maen nhw'n arwydd fy mod i'n un o’r goreuon, neu ar y ffordd yno, er taw dim ond dwy sy'n aur. Mae un yn orfodol: os oes llif 'da chi, rhaid i chi ennill hon i dystio nad oes unrhyw beth ar eich llif sy'n groes i foesoldeb, teyrngarwch na wleidyddiaeth gywir ein Gweriniaeth. Eich bod chi'n gyfreithiol.
Celf: Du a Gwyn - Aur Bleddyn
"Ma 'na ddarn yn y stori'n sôn am amser bath yn nhŷ nain, felly lluniais y ferch yn y bath 'ym mreichia du' ... fel 'se popeth yn iawn yn y bath, mae hi'n anghofio am realiti felly mae hi'n gwynebu i ffwrdd o'r du. Gwelir fod y 'du'n cael ei sugno ... mewn i 'ngwythienna', a'r unig liw ydy'r 'blew yn sythu fatha cae o wenith melyn' ar ei choesau".
Cerdd: Ti, hedyn bach - Ffion Bryn
Ti, hedyn bach, / wedi dy blannu mor ddwfn yn y ddaear ddu, / paid â phoeni, / paid ag ofni, / gan mai ti yw fy hedyn bach i.
Cerdyn Post Creadigol: Yr Arctig - Mari Huws
Dwi ar hen dir yn hwylio’r hen fôr / a’r hen hen arfordir yn disgwyl. / Ar y gorwel - rhewlif, a’r hen ddŵr o’r hen fyd…
Stori Fer: Rhywbeth rhyfedd yn y dŵr - Seran Dolma
Mae 'nhad yn gwisgo mantell o fflamau, ac yn marchogaeth trwy'r awyr ar gefn teigr, ei lygaid yn poeri mellt a'i lais yn atseinio fel taranau o amgylch y clogwyni. Mae fy mam yn gorwedd yn wyrdd a chysglyd yn yr heulwen, ei chorff yn llyfn a llonydd, dŵr yn cronni yn ei phantiau ac yn anweddu o'i hysgwyddau.
Cerdyn Post Creadigol: Nepal - Anna George
Daeth y golomen hefo cerdyn arall yn ei phig heddiw, a hwn gyda oglau llwch y mynydd arno fo. Roedd Anna George yn un o griw a aeth draw i fase camp Everest ond hyd yn oed a hithau bellach wedi cyrraedd Cymru fach yn ôl mae’r llethrau yn dal i dynnu.
Stori Fer: Mon Petit - Iestyn Tyne
Bob bore am unarddeg, byddai Kingsley Llywelyn yn paentio’r môr. Wedi deffro am wyth a hepian am hanner awr, byddai’n codi o ochr chwith y gwely, ac yn gwneud ei ffordd o’i amgylch i agor y llenni ar y dde. Gyda’r haul boreol yn tywallt trwy’r gwydr sengl, byddai, yn yr haf o leiaf, yn defnyddio’r golau naturiol hwnnw i eillio, wedi iddo gychwyn rhedeg bath iddo’i hun.
Cerdd: Bannau - Lowri Havard
Yn ystod Gorffennaf 2013, ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn, bu farw Craig Roberts ac Edward Maher wrth ymarfer gyda'r SAS ym Mannau Brycheiniog. Bu farw trydydd milwr, James Dunsby yn yr ysbyty yn ddiweddarach. Bu beirniadaeth mawr o'r modd yr aeth yr ymarferion yn eu blaenau er gwaethaf y gwres anioddefol, a arweiniodd at farwolaethau'r tri. Mae'r drasiedi yn gefnlen i'r gerdd hon.
Cerdd: Orig yn y prynhawn, Lerpwl - Morgan Owen
Adar yn gân, gorwel llwydolau / machlud drwy we pry cop, / arogl y glaw mân clir / ar goncrit, arlliw haf …
Ysgrif: Lleddfu Diflastod - Non Mererid Jones
Bythefnos yn ôl, fe dorrais fy ffêr. ‘Be ‘nes di?’ fe’ch clywaf yn gofyn. ‘Damwain wrth syrffio,’ me’ finnau. Na, nid cael fy llarpio gan don na chael fy mrathu gan siarc – dim byd cŵl – dim ond camu’n flêr oddi ar y surfboard a ‘snap’. Rhegais nerth fy mhen gan obeithio y byddai’r gwynt yn cario’r ‘ffyc sêcs’ dros y dwnan ac yn rhoi gwybod i rywun yn rhywle bod rhywbeth o’i le. Gorweddais fel morlo ar y lan i gael fy ngwynt ond ar ôl pum munud roeddwn i’n dechrau rhynnu.
Cerdd: Torrydd 1. Tu hwnt i’r map - Iestyn Tyne
(Geiriau a chymalau byrion wedi eu torri o: ‘Y Gwanwyn’, ‘Claddu’r Bardd o Gariad’, Dafydd ap Gwilym; Gwybodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; Y Ffordd yng Nghymru, R. T. Jenkins; Cerddi Pentalar, Alun Cilie)
awyr dywyll… / lawrlwythwch daith / dilynwch y llwybr