ARCHIF

~

ARCHIF ~

Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.

Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com

Ymateb: Llyfr y Flwyddyn 2018 - Catrin Beard, Lisa Sheppard, Gareth Evans Jones
Amrywiol, Cyfweliadau, Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp Amrywiol, Cyfweliadau, Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp

Ymateb: Llyfr y Flwyddyn 2018 - Catrin Beard, Lisa Sheppard, Gareth Evans Jones

Heb os, mae cystadlaethau a gwobrau llenyddol yn ffordd dda o ysgogi trafodaethau di-ri - a thrafodaethau tanllyd iawn ar adegau. A gafodd so and so gam? Pwy breibiodd betingalw er mwyn cael ei le ar y restr? (Nid, wrth gwrs, ein bod ni'n awgrymu i neb wneud y ffasiwn beth eleni - Gol) Beth oedd ar feddwl y beirniaid yn dewis y gyfrol yna? A beth yw pwynt y fath gystadlu yn y lle cyntaf?

Read More
Ysgrif: Ymwan â melinau gwynt - Morgan Owen
Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp

Ysgrif: Ymwan â melinau gwynt - Morgan Owen

Pan ddaethant o’r brifddinas ymerodraethol a chwalu tai a thyrau’r cewri a llenwi beddi parod dwy ganrif o gloddio â phopeth oedd ar ôl, nid oeddwn yn bod; nid oeddwn yn poeni rhyw lawer a minnau’n wacter. Fe’m ganed wedi hynny mewn ffin-dre rhwng y ffridd a’r creithiau, ac roeddwn yn ddigon hapus fy myd. Pethau rhamantaidd i fachgen yw adfeilion unrhyw oes, ac ni all yr ifainc synhwyro dolur y meysydd gweigion.

Read More
Cyfweliad: Blwyddyn gyntaf Recordiau Libertino - Gruff Owen
Cyfweliadau Cyhoeddiadau'r Stamp Cyfweliadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Cyfweliad: Blwyddyn gyntaf Recordiau Libertino - Gruff Owen

Ddydd Sadwrn diwethaf yn Nhîpî Pizza Aberteifi, roedd parti mawr. Achlysur y dathlu? Bod Libertino, label recordiau ieuengaf Cymru, yn un oed. Dywedodd sawl un bod y gig dathlu yn cynnwys un o leinyps y flwyddyn yn gerddorol, a'r hyn sy'n drawiadol yw mor eclectig a llawn addewid oedd y leinyp hwnnw o ystyried mor newydd yw'r label.

Read More
Cerdyn Post Creadigol: O Letterkenny i Enlli - Beth Celyn
Cardiau Post Creadigol Cyhoeddiadau'r Stamp Cardiau Post Creadigol Cyhoeddiadau'r Stamp

Cerdyn Post Creadigol: O Letterkenny i Enlli - Beth Celyn

Wedi wythnos hwyliog yn Letterkenny, yn llawn Smithwicks a môr-ladron a chanu, o grwydro’r Wild Atlantic Way i ailgynnau tân y Pan-Geltiaid, rhyfedd oedd sefyll ar Ynys y Lli yn syllu draw dros Fôr yr Iwerydd. Roedd marwydos y machlud yn asio i mewn i awyr y nos a’r llwybr llaethog a ymddangosodd yn ei le yn goleuo’r ffordd ’nôl i ‘Werddon.

Read More
Profiad: Yng Nghalon y Trobwll, Ffair Lyfrau Llundain - Eluned Gramich
Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp

Profiad: Yng Nghalon y Trobwll, Ffair Lyfrau Llundain - Eluned Gramich

Am y tro cyntaf erioed eleni, roedd gan Gymru stondin yn Ffair Lyfrau Llundain. Ymunodd wyth sefydliad llenyddol â'i gilydd – Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Prydeinig Cymru, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, Llenyddiaeth Cymru, Cyfnewidfa Lên Cymru, PEN Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru - i sicrhau bod Cymru'n cael ei chynrychioli yn un o ffeiriau llyfrau mwyaf y byd.

Read More
Cyfweliad: Where I’m Coming From: Durre Shahwar & Hanan Issa
Cyfweliadau Cyhoeddiadau'r Stamp Cyfweliadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Cyfweliad: Where I’m Coming From: Durre Shahwar & Hanan Issa

Ers tua hanner blwyddyn bellach, mae digwyddiadau barddonol Where I’m Coming From wedi bod yn denu pobol o bob tras a chefndir at ei gilydd i wrando a datgan barddoniaeth yn y Tramshed yng Nghaerdydd. Un o olygyddion Y Stamp fu i un o’i digwyddiadau ym mis Chwefror i holi’r trefnwyr, Hanan Issa a Durre Shahwar am y fenter. Y mae Durre yn llenor, yn ddeilydd un o fwrsariaethau Llenyddiaeth Cymru eleni, ac yn dod o dras De Asiaidd, tra fod Hanan yn fardd a llenor o dras cymysg, Cymraeg ac Iraci.

Read More
Rhestr Ddarllen: Y Daith - Grug Muse
Rhestrau Darllen Cyhoeddiadau'r Stamp Rhestrau Darllen Cyhoeddiadau'r Stamp

Rhestr Ddarllen: Y Daith - Grug Muse

Y mae teithio, yn ei hanfod, yn weithred syml o symud o un lle i le arall. Prin nad oes diwrnod lle na byddwn yn gwneud taith o ryw fath i ryw le— boed honno’n siwrne 12 awr dros Fôr yr Iwerydd, neu’n drip sydyn i’r siop. Mae rhai yn canfod gorchest mewn siwrneiau mawr i ben mynyddoedd uchel— ac i eraill mae siwrne rhwng dau bared yr ystafell Physio ar goesau diarth yn llawn cymaint o fuddugoliaeth. Y mae rhyfeddod i’w gael mewn taith llygad ar draws y stafell mewn claf ac anaf ar ei ymennydd, ac mewn taith gwennol o Gaernarfon i’r Sahara, fel ei gilydd.

Read More
Stori Fer: Yncl Dennis - Iago ap Iago
Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp

Stori Fer: Yncl Dennis - Iago ap Iago

Syrthiodd Dennis i’r llwyn, y deisen lemwn drisl yn malu’n friwsion yn ei law dew, binc. Rhyw dair llath i’r chwith, roedd Gwawr ei wraig ar y lawnt yn horisontal yn barod, synau bychain a diferiad o ddŵr pinc yn dod allan o’i chêg. Potel a hanner o wîn y tu fewn iddi. Ffrog feinweol a hollol anaddas i’r tywydd yn dal amdani’n ddewr.

Read More
Cyflwyniad: Ffuglen Ddigidol - Leia Fee
Amrywiol, Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp Amrywiol, Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp

Cyflwyniad: Ffuglen Ddigidol - Leia Fee

Dyw’r ffordd rydym ni’n darllen ffuglen heb newid lot drwy’r canrifoedd. Mae’r fformat wedi newid (i rai) gyda’r e-lyfrau, mae ffasiynau yn ôl pa mor ffurfiol yw’r tecst wedi newid a newid eto ac eto ond nid y ffaith syml ein bod yn dilyn y stori yn ôl trefn yr awdur. Yn y drefn maen nhw’n dewis, a thrwy’r tecst sydd o’n blaen ni yn unig.

Read More
Cyfweliad: Arrate Illaro
Cyfweliadau Cyhoeddiadau'r Stamp Cyfweliadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Cyfweliad: Arrate Illaro

Fis Hydref, mi fum i a chriw o ffrindiau ar daith yng Ngwlad y Basg, yn mwydro pennau cynulleidfaoedd yno gyda datganiadau pen pastwn meddw o gerddi Dafydd ap Gwilym, ymysg pethau eraill. Roeddan nhw wrth eu boddau yn clywed cerddi’n cael eu hadrodd fel hyn, ac yn cymryd atyn nhw llawer mwy na’r rhai hynny yr o’n i’n eu hadrodd i gyfeiliant cerddorol. Y rheswm am hyn, mae’n debyg, yw bod datgan yn y ffordd yma yn eu hatgoffa o’u traddodiad barddoniaeth eu hunain; y bertsolaritza. Rai wythnosau yn ôl, yn y car rhwng y Dyfi yng Nglantwymyn a’r Fic yn Llithfaen, mi ges i sgyrsiau difyr iawn ag Arrate Illaro, un o’r bertsolari; a chyfle i gydweithio hefo hi mewn perfformiad y noson honno …

Read More
Cerdyn Post Creadigol: ‘Mericia - Llyr Titus
Cardiau Post Creadigol Cyhoeddiadau'r Stamp Cardiau Post Creadigol Cyhoeddiadau'r Stamp

Cerdyn Post Creadigol: ‘Mericia - Llyr Titus

Mi fuodd ein Llyr bach ni ar drip bach dymor diwethaf, i dreulio tymor yn “astudio” ym mhrifysgol Harvard. Mae’n debyg fod o wedi mwynhau lot gormod; wedi dod yn aelod anrhydeddus o Faffia Wyddelig Boston; wedi rhannu sbliff efo Bill Clinton; wedi bod mewn ffeit efo Jack Kennedy mewn bar yn Watertown, yn ogystal a chymryd rhan mewn nifer o weithgareddau allgyrsiol eraill.

Read More
Stori Fer: Aberth y Tafod - Morgan Owen
Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp

Stori Fer: Aberth y Tafod - Morgan Owen

Chwythai dalennau crimp fel croen winwns o’r berfeddwlad o bryd i’w gilydd. Deuent ar wynt sych a chrasboeth a ddaethai dros y tiroedd llwm a gwag, ac ni wyddai neb eu tarddiad. Mynnai’r ofergoelus taw cenadwri wasgaredig rhyw broffwyd oeddent a aeth ar goll ar y paith, ac a daflai ddalennau ei lyfrau i’r awyr gan obeithio y cyrhaeddent eu nod yn y pen draw, sef calonnau briw y boblogaeth weddilliedig. Ond ni roes neb fawr o goel ar y ddamcaniaeth hon.

Read More