ARCHIF

~

ARCHIF ~

Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.

Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com

Adolygiad: ‘Squatters’ Castell Coch
Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Adolygiad: ‘Squatters’ Castell Coch

Cyfres o gerfluniau wedi eu gosod o amgylch Castell Coch yw 'Squatters' gan Laura Ford, ac fel mae'r enw'n awgrymu, mae rhywrai neu rywbeth wedi dod i darfu ar grandrwydd y castell. Aeth adolygydd brwd draw i weld y sioe uchelgeisiol hon gan Oriel Deg…

Read More
Cyfweliad: Gŵyl y Ferch - Ffion Pritchard ac Esme Livingston
Cyfweliadau Cyhoeddiadau'r Stamp Cyfweliadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Cyfweliad: Gŵyl y Ferch - Ffion Pritchard ac Esme Livingston

Mae'n fore digon oer yng Nghaernarfon, ond mae'r croeso a'r baned yn gynnes yn hwb creadigol ac oriel Balaclafa CARN, sydd ers mis bellach wedi bod yn gartref i raglen lawn dop o ddigwyddiadau gan griw bach ond gweithgar Gŵyl y Ferch, a gynhaliwyd eleni am y tro cyntaf. Bu'r Stamp heibio am sgwrs sydyn i edrych yn ôl ar gyfnod yr ŵyl, ac ymlaen tua'r dyfodol.

Read More
Rhestr Ddarllen: Pump o Insta-feirdd - Iestyn Tyne
Rhestrau Darllen Cyhoeddiadau'r Stamp Rhestrau Darllen Cyhoeddiadau'r Stamp

Rhestr Ddarllen: Pump o Insta-feirdd - Iestyn Tyne

Ydy’r enwau Rupi Kaur, Atticus a Cleo Wade yn golygu unrhyw beth i chi? Mae’n bosib iawn mai dyma enwau rhai o feirdd mwyaf poblogaidd y byd ar hyn o bryd, os nad erioed. Cyfrol gyntaf Kaur o gerddi, milk & honey yw’r gyfrol o farddoniaeth gyda’r gwerthiant uchaf yn hanes y byd – 3.5 miliwn o gopïau, ac mae’n parhau i godi. Mae’r nifer mor fawr nes ei fod yn anodd ei amgyffred.

Read More
Adolygiad: Anweledig - Aled Jones Williams
Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Adolygiad: Anweledig - Aled Jones Williams

Dyma fi eto yn hwyr i ddrama ac angen neud y walk of shame lan y grisie i fy sêt wrth deimlo llygaid PAWB yn y theatr yn edrych arna i. Fel arfer, os mai cynulleidfa drama Gymraeg yw hi, dim ond ambell bâr o lygaid sy'n edrych arnat ti, ond na, roedd prif theatr y Sherman yn llawn gyda phawb yn eu seddi yn barod i weld Anweledig fel cyfanwaith terfynol.

Read More
Cerdd: Haul - Osian Owen
Barddoniaeth Cyhoeddiadau'r Stamp Barddoniaeth Cyhoeddiadau'r Stamp

Cerdd: Haul - Osian Owen

Ym Mhrâg y diwrnod hwnnw dychmygaf fod yr haul

mewn ffrwgwd â’r cymylau, a bod yr haul wedi curo.

Dychmygaf dy fod dithau ar y bont yn syllu ar

y Vlatva’n bragu’n gwrw budur.

Read More