ARCHIF

~

ARCHIF ~

Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.

Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com

Ymateb: ‘Cilfachau’ - Morgan Owen
Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Ymateb: ‘Cilfachau’ - Morgan Owen

O’r gerdd gyntaf un, mae’r casgliad hwn yn mapio daearyddiaeth rwystredig, wrthnysig, a’r tir ei hun fel petai’n caethiwo’r traethydd yn fwriadol; ac ar ben hynny, ymddengys fod rhyw ffawd ddiwrthdro yn ei lywio tua’r dibyn.

Read More
Ymateb: ‘Gorwelion’ - Caryl Bryn
Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Ymateb: ‘Gorwelion’ - Caryl Bryn

Diau mai’r grefft o gynnig naratif ar gynghanedd yw hud cystadleuaeth y Gadair i mi – byddaf yn ymdrochi y mesuriadau a’r cynganeddion a’n synnu ar ddawn prifardd i allu drosglwyddo neges mor rhwydd ac hwythau'n gaeth i’r gynghanedd.

Read More
Adolygiad: Derwen
Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Adolygiad: Derwen

Gyda hanner y cast yn unig wedi darllen y sgript o flaen llaw a’r hanner arall yn ei weld am y tro cyntaf wrth gamu ar y llwyfan dwi methu dyfalu sut mae’r ddrama yma am ddatblygu.

Read More
Adolygiad: Basgedwaith
Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Adolygiad: Basgedwaith

Wrth gerdded i mewn i’r arddangosfa, yr hyn sy’n taro rhywun yn syth ydi’r bylchau. Neu yn hytrach, y golau yn pelydru trwy’r bylchau, yn taflu patrwm o gysgodion rhwyll ar y waliau a’r lloriau.

Read More
Cyfweliad: Cymodi - Brennig Davies
Cyfweliadau Cyhoeddiadau'r Stamp Cyfweliadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Cyfweliad: Cymodi - Brennig Davies

Daeth Brennig Davies i'r brig eleni yng nghystadleuaeth y Goron yn eisteddfod yr Urdd, gyda'i stori fer Digwyddodd, Darfu- stori am ddynes sy'n dod o hyd i lwynog gwyllt. Mi fuodd y Stamp yn holi Brennig am hyn a'r llall ag arall…

Read More
Ysgrif: O dan yr awyron hyn - Sara Borda Green
Mis Mudo, Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp Mis Mudo, Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp

Ysgrif: O dan yr awyron hyn - Sara Borda Green

Ers rhywfaint o amser, degawd efallai, rwyf wedi bod yn ymwybodol bod gennyf obsesiwn â’r cysyniad o amser a’r gwahanol brofiadau sydd yn deillio ohono. Mae’r diddordeb yn cynnwys safbwynt meicro fel y profiad o lif amser yn fy arddegau fel rhywbeth dwys a sefydlog, hyd at y teimlad o freuder neu fertigo yn ddiweddarach.

Read More
Adolygiad: Saethu Cwningod
Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Adolygiad: Saethu Cwningod

Roedd gan y diweddar artist aml-gyfrwng Mike Kelley derm, “negative joy,” i ddisgrifio’r dynfa sydd mor aml wrth graidd darnau o waith sy’n ymwneud â phynciau gwleidyddol heriol.

Read More
Adolygiad: Gwythienne Copr - Ceri Rhys Matthews ac Elsa Davies
Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Adolygiad: Gwythienne Copr - Ceri Rhys Matthews ac Elsa Davies

'Gwythienne Copr' oedd teitl y perfformiad, a dilyn rhai o’r gwythiennau hynny yn naeareg Cymru wnaeth y ddau ar eu taith hefyd; yng Nghroesor ac Amlwch, lle bu’r werin bobl yn rhewi wrth eu gwaith yn cloddio’r copor amrwd o’r ddaear, ac yn ninas Abertawe, lle bu eu cefndryd yn crino yn y ffwrneisi wrth ei smeltio.

Read More