ARCHIF

~

ARCHIF ~

Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.

Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com

Rhestr Ddarllen: Deg Cyfrol gan Awduron Benywaidd – Mair Rees
Rhestrau Darllen Cyhoeddiadau'r Stamp Rhestrau Darllen Cyhoeddiadau'r Stamp

Rhestr Ddarllen: Deg Cyfrol gan Awduron Benywaidd – Mair Rees

Gwahoddwyd Dr Mair Rees, awdur y gyfrol Y Llawes Goch a’r Faneg Wen: Y Corff Benywaidd a’i Symbolaeth Mewn Ffuglen Gymraeg Gan Fenywod (Gwasg Prifysgol Cymru, 2014) i lunio rhestr ddarllen arbennig i ni’r wythnos hon. Gofynnwyd iddi awgrymu deg cyfrol – boed yn nofelau neu’n cyfrolau o straeon byrion – yn y Gymraeg gan lenorion benywaidd na ddylid eu hepgor.

Read More
Ysgrif: Dinasoedd yr Hunan - Morgan Owen
Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp

Ysgrif: Dinasoedd yr Hunan - Morgan Owen

Nid yw’r un amgylchfyd yn gweddu’n well i amryffurfedd meddwl-ddrylliol na’r ddinas, ac iachus o beth yw ymddryllio oherwydd mewn darnau mae undod. Dilysnod dinas felly yw’r cyfle mae’n ei gynnig i ymgolli yng ngwir ystyr y gair, sef y gallu i fod yn neb a phawb―a phopeth rhwng deupen yr eithafion hyn.

Read More
Ysgrif: Pam darllen y clasuron? - Dewi Alter
Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp

Ysgrif: Pam darllen y clasuron? - Dewi Alter

Tybed sut y byddech chi’n diffinio clasur? Mae’n debyg ei fod yn un o’r geiriau hynny mae pobl yn eu defnyddio, ond eto pan fod angen diffiniad rydym yn sylweddoli nad yw ar flaenau’n tafod. Ydych chi wedi darllen rhai o’r clasuron? Oeddech chi’n ymwybodol ei fod yn glasur cyn neu yn ystod ei ddarllen? Oes fath beth â chlasuron yn bodoli yng Nghymru ac yn y Gymraeg? Ceisiodd Saunders Lewis a Bobi Jones ymysg eraill ddiffinio’r ‘canon’ – oes perthynas rhwng ‘canon’ a’r ‘clasuron’? Ac yn olaf beth fyddech chi’n gosod yng nghasgliad y clasuron Cymreig?

Read More
Cerdyn Post Creadigol: Lublin – Llŷr Titus
Cardiau Post Creadigol Cyhoeddiadau'r Stamp Cardiau Post Creadigol Cyhoeddiadau'r Stamp

Cerdyn Post Creadigol: Lublin – Llŷr Titus

Fe oedd hi’n anodd meddwl bod oleiaf 80,000 wedi’u lladd yn rhywle lle’r oeddwn i’n sefyll, anoddach os rwbath oedd y ffaith fod o mor effeithlon. Fe oedd rhywun, yn rhywle, wedi eistedd i lawr hefo papur a phensal ac wedi trefnu pob dim, wedi meddwl ‘gawn ni ddefnyddio’r gwres o losgi’r cyrff yn y poptai i g’nesu dŵr’ a ‘mi fydd lludw’r cyrff yn gwneud gwrtaith da i erddi’r SS’.

Read More
Trafod: Arf ac Anrheg - Daf Prys
Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp

Trafod: Arf ac Anrheg - Daf Prys

Mae Seattle yn lle hynod ddiddorol i fyw rhwng y wleidyddiaeth ffraeth a’r elfen technolegol – mae Bob Ferguson a erlynodd bolisi ‘Muslim Ban’ yn pin-up yma ac mae’r ddinas yn gartref i Amazon, Microsoft a Boeing. Wedi dweud hynny does dim llawer o wahaniaeth i fyw yng Ngymru, yn enwedig Ceredigion (ond am y sushi, sy’n benigamp yma). Mae’r syniadaeth yn radical, mae’r ardal yn fwrlwm o ddinasyddion bydol ac mae’n glawio yn ddibaid. Ond er bod bywyd o ddydd i ddydd yma’n hynod debyg, does dim cysyniad yma o ran beth yw Cymru.

Read More
Ysgrif: Llefydd Symudol - Morgan Owen
Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp Ysgrifau Cyhoeddiadau'r Stamp

Ysgrif: Llefydd Symudol - Morgan Owen

Oriog a chyfnewidiol yw daearyddiaeth breuddwydion. Gŵyr pawb fel mae’r breuddwydiwr yn chwannog i gael ei hunan mewn lleoliad newydd megis ar amrantiad ac yn ddirybudd; neu fel y bydd dau le a wahenir gan bellteroedd meithion yn y byd effro yn ffinio ac yn ymdoddi i’w gilydd rywsut pan fydd y byd hwnnw ynghladd dan gyfaredd hunedd.

Read More
Dathlu: Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2017
Ysgrifau, Rhestrau Darllen Cyhoeddiadau'r Stamp Ysgrifau, Rhestrau Darllen Cyhoeddiadau'r Stamp

Dathlu: Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2017

Mae dwy ferch ar fwrdd olygyddol Y Stamp, ond pedwar ffeminist. Ac phob un ohonom yn gytun na ellid gadael i Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched eleni fynd heb ei nodi.

Gan ddechrau yng Nghymru Fach, gallwn weld lle i ddeisyfu mwy o leisiau benywaidd yn mynd ati i osod eu stamp (no pun intended!) ar y sin lenyddol yng Nghymru. Mae pethau wedi gwella’n aruthrol ond nid yw’r gynrychiolaeth o ran y rhywiau yn gyfartal, o hyd. Gofynnwyd i dri darllenydd – Elinor Wyn Reynolds, Ifan Morgan Jones a Hannah Sams – i rannu eu profiadau hwy o ddarganfod lleisiau benywaidd yn ein llenyddiaeth, ac mae ymateb y tri yn cynnwys sylwadau a chwestiynau pur ddiddorol.

Read More
Rhestr Ddarllen: 10 Nofel Arabeg - Asim Qurashi
Rhestrau Darllen Cyhoeddiadau'r Stamp Rhestrau Darllen Cyhoeddiadau'r Stamp

Rhestr Ddarllen: 10 Nofel Arabeg - Asim Qurashi

Dyna gyfrifoldeb ydi cyflwyno eich llenyddiaeth i gynulleidfa gwbl ddiarth – a hynny mewn dim ond deg nofel! Y benbleth fawr wrth geisio dewis a dethol oedd hyn: a ddylwn i ddewis y deg sy’n cael eu hystyried fel y goreuon yn y byd Arabeg; yntau ddewis y deg cyfieithiad gorau? A chyfieithiad yw’r gair allweddol yma. Oherwydd gellid gofyn pam peidio â dewis deg nofel a ysgrifennwyd gan Arabiaid yn Saesneg?

Read More
Adolygiad: Haul - Adwaith
Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Adolygiad: Haul - Adwaith

Peth digon prin yn y sîn Gymraeg yw dod ar draws band o ferched yn unig, felly diolch byth fod Adwaith wedi camu i’r bwlch amlwg hwnnw, a gwneud hynny’n dda! Cân syml ddigon yw ‘Haul’, eu sengl ddiweddaraf o dan adain Decidedly Records, y label newydd sbon a chyffrous iawn o Gaerfyrddin sydd hefyd wedi rhyddhau senglau cryf gan ARGRPH a Hotel del Salto yn ddiweddar. Mae’n gân serch sy’n dod â mymryn o’r haf atom ni yng nghanol mis Chwefror, ac mae hynny yn ei hun i’w ganmol!

Read More