ARCHIF

~

ARCHIF ~

Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.

Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com

Ysgrif: ‘Atgof’ Dedalus - Iestyn Tyne
Ysgrifau, Mis Hanes LHDTC Cyhoeddiadau'r Stamp Ysgrifau, Mis Hanes LHDTC Cyhoeddiadau'r Stamp

Ysgrif: ‘Atgof’ Dedalus - Iestyn Tyne

Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1915, gosodwyd y seiliau i fath newydd o farddoniaeth yn y Gymraeg wrth i bryddest ‘Y Ddinas’ gan T H Parry-Williams gael ei choroni. Crwydrai’r gerdd honno i diriogaethau nas tramwywyd arnynt gan feirdd Cymraeg cyn hynny; ymysg pethau eraill, fe ddangosai dosturi tuag at hunanleiddiaid, ac fe drafodai themâu ‘anfoesol’ fel puteindra yn gwbl agored.

Read More
Cyfweliad dros banad: Gareth Evans-Jones
Cyfweliadau Cyhoeddiadau'r Stamp Cyfweliadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Cyfweliad dros banad: Gareth Evans-Jones

Un sydd wedi bod yn driw i’r Stamp o’r dechrau’n deg ydi Gareth Evans Jones, mi gofiwch efallai ei stori ffuglen wyddonol o yn y Labordy yn rhifyn cyntaf un neu ei ddarnau o lên meicro yn Rhifyn 4. Yn ddarlithydd yn Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor mae o wedi cyhoeddi nofel gyda Gwasg y Bwthyn yn ddiweddar. Ein Llŷr Titus bach ni aeth ati i’w holi fo dros banad rithwir am y nofel Eira Llwyd ac ambell beth arall.

Read More
Adolygiad Fideo: Bondo a Treiglo - Beth Celyn, Elis Dafydd
Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp Adolygiadau Cyhoeddiadau'r Stamp

Adolygiad Fideo: Bondo a Treiglo - Beth Celyn, Elis Dafydd

Sbel go lew yn ôl bellach (sori bois) fe ddaeth Bethany Celyn ac Elis Dafydd at ei gilydd mewn ystafell ym Mangor i sôn am lyfrau. Digon hawdd adolygu a chuddio tu ôl i sgrin sawl drafft ond gwahanol iawn ydi bwrw ati o flaen camera heb gael cyfle i ymarfer... dyma ddigwyddodd pan aeth y ddau ati.

Read More
Rhestr Ddarllen: Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2018
Rhestrau Darllen Cyhoeddiadau'r Stamp Rhestrau Darllen Cyhoeddiadau'r Stamp

Rhestr Ddarllen: Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2018

A hithau'n ddiwrnod cenedlaethol o ddathlu barddoniaeth, dyma restr ddarllen o awgrymiadau rhai o'n cyfrannwyr, golygyddion a darllenwyr, o gyfrolau o farddoniaeth y dylech chi fynd a'i darllen heddiw. Os oes ganddo chi awgrym o gyfrol yr yda chi ar dân eisiau ei hargymell i bobol, croeso i chi ychwanegu sylw, neu yrru neges draw ar yr hen Dwityr. Joiwch!

Read More